Mae'r Cyflymydd Amddiffyn a Diogelwch (DASA) yn falch o lansio'r Farchnad Syniadau. Mae'r Farchnad Syniadau yn Blatfform Cydweithredu rhwydweithio ar-lein lle gall arloeswyr drafod, cydweithio a rhannu syniadau gyda defnyddwyr o'r un anian i oresgyn heriau amddiffyn a diogelwch a helpu i gyflwyno'r genhedlaeth nesaf o offer a gwasanaethau amddiffyn a diogelwch.
O helpu arloeswyr i ennill arbenigedd a chymorth arbenigol i ddatblygu technolegau, i ffurfio partneriaethau hirsefydlog a dod o hyd i gyfleoedd ariannu newydd.
Bydd y Farchnad Syniadau yn helpu arloeswyr i:
- glywed am gyfleoedd ariannu o bob rhan o lywodraeth y DU
- cael mynediad at gystadlaethau unigryw
- cydweithio ag arloeswyr eraill i wneud syniadau'n llwyddiannus
- ymgysylltu ag arweinwyr y diwydiant a dysgu mwy am y dirwedd amddiffyn a diogelwch
- meithrin perthnasoedd a phartneriaethau cydweithredol
I gael mwy o wybodaeth, ewch i Introducing the Ideas Marketplace - GOV.UK (www.gov.uk)