BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfnod Atal Byr y Coronafeirws Cymru – busnesau a gwasanaethau y mae eu mangreoedd yn ddarostyngedig i gyfyngiadau neu i’w cau

Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod cyfyngiadau ar unigolion, busnesau ac eraill i amddiffyn iechyd y cyhoedd. Maent yn disodli Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020.

Mae'r rheoliadau'n cynnwys rhestr o fusnesau a gwasanaethau y mae eu hadeiladau yn ddarostyngedig i gyfyngiadau neu gau eu safleoedd. Mae'r rhestr i'w gweld ar dudalen 37 o'r rheoliadau.

Busnesau a mangreoedd nad ydynt yn hanfodol y mae'n rhaid eu cau o 6pm ar 23 Hydref 2020.

Cliciwch yma i ddarllen y Cwestiynau Cyffredin Cyfnod atal y coronafeirws.

I gael rhagor o wybodaeth ac i weld y rheoliadau, ewch i wefan Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.