BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfnod Pontio’r DU: Rhoi nwyddau wedi’u gweithgynhyrchu ar y farchnad

Gogledd Iwerddon o 1 Ionawr 2021

Mae canllawiau wedi’u cyhoeddi yn rhoi manylion yr hyn sydd angen i chi ei wneud i gydymffurfio â rheoliadau ar nwyddau wedi’u gweithgynhyrchu y byddwch yn eu rhoi ar y farchnad yng Ngogledd Iwerddon o 1 Ionawr 2021. Gallwch wirio pa reolau sy’n berthnasol i chi, a oes angen i chi newid eich asesiad neu nodau cydymffurfio, dod o hyd i wybodaeth am benodi person awdurdodedig a gwirio a yw’ch cyfrifoldebau cyfreithiol yn newid a mwy ar wefan GOV.UK.   

Prydain Fawr o 1 Ionawr 2021

Mae’r canllawiau ar roi nwyddau wedi’u gweithgynhyrchu ar y farchnad ym Mhrydain Fawr o 1 Ionawr 2021 wedi’u diweddaru ac yn cynnwys gwybodaeth am roi nwyddau cymwys ar y farchnad ym Mhrydain Fawr a Gogledd Iwerddon. Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK

Mae gwahanol ganllawiau os ydych chi’n rhoi nwyddau wedi’u gweithgynhyrchu ar Farchnad yr UE o 1 Ionawr 2021.

Ewch i wefan Porth Pontio UE Busnes Cymru sy'n rhoi cyngor ac arweiniad pwysig i fusnesau sy'n paratoi ar gyfer y trefniadau pontio Ewropeaidd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.