BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfraddau a rhyddhadau newydd y Dreth ar Alcohol – paratowch ar gyfer y newidiadau erbyn 1 Awst 2023

Bydd y ffordd y mae’r Dreth ar Alcohol yn cael ei chodi yn newid o 1 Awst 2023 ymlaen, gan symud i fandiau treth safonedig ar gyfer yr holl gynhyrchion alcoholig yn seiliedig ar alcohol yn ôl cyfaint (ABV). 

Bydd cyfraddau a rhyddhadau newydd ar gyfer y dreth, gan gynnwys Rhyddhad Cynhyrchwyr Bach, cyfradd is ar gyfer cynhyrchion cwrw casgen (a adwaenir hefyd fel Rhyddhad Cwrw Casgen), a threfniadau pontio ar gyfer cynhyrchwyr a mewnforwyr rhai cynhyrchion gwin o 1 Awst 2023 tan 1 Chwefror 2025. 

I ddysgu mwy a pharatoi ar gyfer y newidiadau, ymunwch â gweminarau byw CThEF, lle y gallwch ofyn cwestiynau’n uniongyrchol. 

Trosolwg o strwythur a chyfraddau newydd y Dreth ar Alcohol

Cofrestrwch ar gyfer y weminar fyw nesaf am drosolwg o strwythur a chyfraddau newydd y Dreth ar Alcohol.

Rhyddhad i Gynhyrchwyr Bach a strwythur newydd y Dreth ar Alcohol

Cofrestrwch ar gyfer y weminar fyw nesaf am strwythur newydd y Dreth ar Alcohol a Rhyddhad i Gynhyrchwyr Bach.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.