BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfraddau Treth Incwm Cymru

Welsh flag and pound coins

Datganiad Ysgrifenedig: Cyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT) - Cyhoeddi Cytundeb Lefel Gwasanaeth ac Adroddiad Blynyddol CThEF (2023), Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

Mae Deddf Cymru 2014 yn rhoi'r pŵer i'r Senedd bennu Cyfraddau Treth Incwm Cymru (WRIT).

Mae Cytundeb Lefel Gwasanaeth yn bodoli rhwng Llywodraeth Cymru a Cyllid a Thollau Ei Fawrhydi (CthEF) ar gyfer gweithredu CTIC. Mae'n nodi'r gofynion, yr amserlenni a'r mesurau perfformiad. Mae cadw at y Cytundeb yn sicrhau y rhoddir gwasanaeth o ansawdd cyson i drethdalwyr yng Nghymru ac yn galluogi CThEF a Llywodraeth Cymru i fodloni eu cyfrifoldebau priodol o ran gweithredu cyfraddau treth incwm Cymru.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru a CThEF wedi adolygu’r Cytundeb Lefel Gwasanaeth i sicrhau ei fod yn addas i’r diben o hyd. Fel rhan o’r broses hon, gwnaed rhai newidiadau a diwygiadau.  

Mae'r adolygiad diweddaraf yn adlewyrchu ymrwymiad CThEF i ddarparu cyngor gweithredu i Lywodraeth Cymru ynghhylch gwneud newidiadau i WRIT. Mae'n cynnwys testun ynglŷn â’r broses effeithio, gan wneud rhwymedigaethau a dull gweithredu CThEF yn glir.

Mae dolen at y Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gael yn: Cytundeb Lefel Gwasanaeth ar gyfer gweithredu Cyfraddau Treth Incwm Cymru gan CThEF


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.