BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyfraith newydd i sicrhau bod gweithwyr ar ffyrlo yn derbyn taliadau colli swydd llawn

Fel arfer, mae gan weithwyr gyda mwy na 2 flynedd o wasanaeth parhaus sy’n colli eu gwaith hawl i daliad colli swydd statudol sy’n seiliedig ar hyd gwasanaeth, oedran a chyflog, hyd at uchafswm statudol.

Mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno deddfwriaeth o ddydd Gwener 31 Gorffennaf a fydd yn:

  • sicrhau bod gweithwyr ar ffyrlo yn derbyn tâl colli swydd statudol ar sail eu cyflogau arferol, yn hytrach na chyfradd ffyrlo ostyngedig
  • golygu nad yw’r rhai ar ffyrlo dan y Cynllun Cadw Swyddi drwy gyfnod y Coronafeirws ar eu colled os ydynt yn colli eu swydd
  • cymwys hefyd i dâl rhybudd statudol a hawliadau eraill, gan roi sicrwydd yn ystod yr amser anodd hwn

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.