BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyhoeddiad am ffiniau a’r cyfnod pontio

Yn dilyn cyfarfod gyda’r Cyd-bwyllgor Ymadael ar 12 Mehefin 2020, mae’r DU wedi hysbysu’r UE yn ffurfiol na fydd yn derbyn nac yn ceisio estyniad i’r Cyfnod Pontio.

Gan gydnabod effaith y coronafeirws ar allu busnesau i baratoi, bydd y DU yn cyflwyno rheolaethau ffiniau newydd mewn tri chyfnod hyd at 1 Gorffennaf 2021.

O fis Ionawr 2021: Bydd angen i fasnachwyr sy’n mewnforio nwyddau safonol, gan gynnwys popeth o ddillad i offer electronig, baratoi ar gyfer gofynion tollau sylfaenol, fel cadw cofnodion digonol o nwyddau a fewnforir a bydd ganddynt hyd at chwe mis i gwblhau datganiadau tollau. Er y bydd angen talu tollau ar bopeth sy’n cael ei fewnforio, gellir oedi taliadau tan i ddatganiad tollau gadel ei wneud. Bydd archwiliadau ar nwyddau a reolir fel alcohol a thybaco. Bydd hefyd angen i fusnesau ystyried sut maent yn rhoi cyfrif am TAW ar gyfer nwyddau a fewnforir. Bydd archwiliadau ffisegol hefyd yn y gyrchfan ar bob anifail byw risg uchel a chyfran o anifeiliaid byw risg isel.

O fis Ebrill 2021: Bydd pob cynnyrch o darddiad anifeiliaid (POAO) – er enghraifft cig, bwyd anifeiliaid anwes, mêl, llaeth neu gynhyrchion wyau – a phob planhigyn a chynhyrchion planhigion sy’n cael eu rheoleiddio angen hysbysiad ymlaen llaw a’r ddogfennaeth iechyd berthnasol.

O fis Gorffennaf 2021: Bydd yn rhaid i fasnachwyr sy’n symud unrhyw nwyddau wneud datganiadau yn y lleoliad mewnforio a thalu tollau perthnasol. Bydd gofyn am ddatganiadau diogelwch llawn, ac ar gyfer nwyddau SPS bydd cynnydd mewn archwiliadau ffisegol a chymryd samplau: bydd archwiliadau ar anifeiliaid, planhigion a’u chynhyrchion nawr yn digwydd mewn Mannau Rheoli Ffiniau Ynysoedd Prydain.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.