BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyllid a chefnogaeth i fusnesau Pobl Dduon

Restaurant - owner wearing a blue apron

Mae ceisiadau ar gyfer y Gronfa Busnesau Pobl Dduon bellach ar agor.

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae llawer o fusnesau bwyd a diod wedi bod dan bwysau, gyda busnesau Pobl Dduon yn wynebu heriau arbennig.

Mae NatWest wedi tynnu sylw at y rhwystrau sylweddol sy'n wynebu busnesau Pobl Dduon wrth geisio sicrhau cyllid. Mae Be Inclusive Hospitality wedi canfod mai gweithwyr Du sydd fwyaf tebygol o dynnu sylw at ethnigrwydd fel ffactor o ran rhwystro dilyniant eu gyrfa.

Mae'r Gronfa Busnes Pobl Dduon yn ôl am ei phedwaredd blwyddyn i helpu. Gall bwytai sy’n eiddo i Bobl Dduon sydd â llai na phum lleoliad ac sydd wedi bod yn masnachu am fwy na 12 mis wneud cais am grant i roi hwb i'w busnes.

Bydd 25 o fwytai yn derbyn £10,000 yr un, gydag o leiaf hanner y grantiau yn mynd i fusnesau y tu allan i Lundain.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 Rhagfyr 2024.

Am ragor o wybodaeth dewiswch y ddolen ganlynol: Black Business Fund: Support for Black-owned businesses | Enterprise Nation | Enterprise Nation

Mae’n gallu bod yn anodd penderfynu ble i fynd i ddod o hyd i gyllid a dewis y math cywir.

Mae ein maes ariannol yma i helpu: Canfod Cyllid | Busnes Cymru (llyw.cymru). Defnyddiwch ein canfyddwr cyllid i ddod o hyd i opsiynau cyllid sy'n berthnasol i'ch busnes chi, i ddarllen canllawiau sy'n esbonio'r gwahanol fathau o gyllid, dod o hyd i wybodaeth am weithio gyda chyfrifwyr ac i ddarllen am Fanc Datblygu Cymru, benthyciwr unigryw i fusnesau yng Nghymru. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.