BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyllid COVID-19 ar gyfer elusennau

I ddiwallu anghenion elusennau bach a lleol a’r bobl maen nhw’n eu cefnogi, ar 3 Awst 2020, bydd Lloyds Bank Foundation for England and Wales yn agor cyllid newydd ar gyfer COVID-19 i gefnogi elusennau i adfer y tu hwnt i’r argyfwng sydd ohoni.

Bydd y Gronfa Adfer COVID yn cynnig grant anghyfyngedig dwy flynedd o £50,000 i elusennau law yn llaw â chefnogaeth Partner Datblygu i helpu elusennau i nodi a gweithredu ar unrhyw addasiadau darpariaeth gwasanaethau a sefydliadol sydd eu hangen i adfer o’r pandemig a’i effeithiau.

Yr elusennau sy’n gymwys am gymorth yw rhai ag incwm rhwng £25,000 ac £1 miliwn ymhob cwr o Gymru a Lloegr sy’n mynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol cymhleth fel iechyd meddwl, digartrefedd a cham-drin domestig a gyda hanes o helpu pobl sicrhau newid cadarnhaol yn eu cymunedau lleol.

Cynhelir gweminar Holi ac Ateb gydag aelodau’r tîm grantiau ar 11 Awst rhwng 2pm a 3.30pm. Gall ymgeiswyr gofrestru ar gyfer y gweminar yma

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Lloyds Bank Foundation.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.