BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyllid Cymunedol

Gall elusennau bach a grwpiau buddiant cymunedol sydd â syniadau a fydd o fudd i’w cymunedau wneud cais am hyd at £50,000 o gyllid ar gyfer prosiectau sy’n datblygu cymunedau mwy cadarn a chysylltiedig ac yn darparu adnoddau i roi mwy o annibyniaeth ariannol i bobl.

Mae’r cyllid ar gael drwy Gronfa Gymunedol Aviva sydd newydd gael ei hail-lansio.

Mae Aviva wedi cydweithio â’r llwyfan codi arian Crowdfunder, sy’n golygu bod ymgeiswyr yn gallu ychwanegu rhoddion cyhoeddus at unrhyw gyfraniadau maen nhw’n eu cael gan Gronfa Gymunedol Aviva.

Y dyddiad cau ar gyfer y rownd hon o gyllid yw 5 Mai 2020.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan AVIVA.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.