BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth cyllid allforio ar gyfer busnesau bach

Mae Cyllid Allforio’r DU (UKEF) wedi lansio cynllun gwarant newydd a fydd yn darparu cyfalaf gweithio i allforwyr bach a chanolig i’w helpu i ddod dros effaith Covid-19.

O dan y Cyfleuster Allforio Cyffredinol gall allforwyr wneud cais am gyllid gan bum banc mwyaf y DU gyda chefnogaeth gwarant UKEF. Bydd hyn yn galluogi allforwyr i ryddhau cyfalaf gweithio y gellir ei ddefnyddio ar gyfer costau cysylltiedig ag allforio ac er mwyn cynyddu eu gweithredoedd busnes.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK.

Beth am ymweld â Phorth Pontio'r UE Busnes Cymru sy’n darparu cyngor ac arweiniad pwysig i fusnesau sy’n paratoi ar gyfer y pontio Ewropeaidd.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.