BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth i wneud cais am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE

Os ydych chi’n ddinesydd o’r UE, Ardal Economaidd Ewropeaidd neu’r Swistir ac yn byw yn y DU, bydd angen i chi a’ch teulu wneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE i ddiogelu’r hawliau sydd gennych chi ar hyn o bryd yn y DU ac i barhau i fyw yn y DU ar ôl 30 Mehefin 2021.

Mae’r opsiwn post ar gyfer cyflwyno dogfennau ar gyfer ymgeiswyr nad ydyn nhw’n  gallu defnyddio’r ap EU Exit: ID Document Check i wirio eu hunaniaeth wedi ailagor.  

Gallwch gael help i wneud cais ar gyfer y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE yma.

Mae’r Swyddfa Gartref wedi cynhyrchu fideo sy’n egluro’r cymorth sydd ar gael ar gyfer gwneud cais i’r Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE. Gallwch wylio’r fideo yma.

Am ragor o wybodaeth am y Cynllun Preswylio’n Sefydlog i Ddinasyddion yr UE, ewch i wefan GOV.UK.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.