BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cymorth teithio i fusnesau’r DU fynd i ddigwyddiadau yn Ewrop – Gwnewch gais nawr!

Brussels

Mae Innovate UK yn cynnig cymorth teithio i gwmnïau fynd i ddigwyddiadau adeiladu consortia yn Ewrop. Mae’r dyfarniadau teithio yn ddull rhagorol o gynorthwyo cwmnïau sydd am ehangu eu rhwydweithiau ar draws Ewrop a chael effaith mewn prosiectau ymchwil a datblygu rhyngwladol cydweithredol. Mae’r dyfarniadau hyn yn annog y DU i gymryd rhan, ymgysylltu a bod yn weledol mewn digwyddiadau rhyngwladol a’u nod yw prysuro ymglymiad y DU mewn rhaglenni ymchwil Ewropeaidd (gan gynnwys Horizon Ewrop ac EUREKA).

I fod yn gymwys am gymorth, mae angen i chi fod yn fusnes bach a chanolig yn y DU sy’n gwneud gwaith ymchwil a datblygu er elw, yn ôl diffiniad yr Undeb Ewropeaidd (gweler y diffiniad yma). 

Os bydd eich cais am gostau teithio a llety yn llwyddiannus, byddwch yn cael cymorth rhagweithiol gan Innovate UK i’ch helpu i sicrhau’r budd mwyaf o fod yn bresennol. 

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Travel support for UK businesses to attend European events - Innovate UK  


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.