BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cyngor Adfer am ddim i Fusnesau

Mae’r Sector Gwasanaethau Proffesiynol a Busnes ac Enterprise Nation, gyda chefnogaeth yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, wedi uno i gynnig cyngor am ddim i fusnesau bach a chanolig i’w helpu i adfer o effaith y Coronafeirws.

Mae cyrff proffesiynol a chymdeithasau masnach yn defnyddio arbenigwyr yn eu sector i gynnig galwadau am ddim ar bynciau o gyfrifyddu i hysbysebu, o AD i faterion cyfreithiol.

Mae Enterprise Nation yn darparu mynediad am ddim i’r platfform hyd nes 31 Rhagfyr 2020, fel y gall busnesau bach a chanolig sydd angen cyngor a chymorth gysylltu â chynghorwyr busnes sy’n cynnig cymorth.

Mae’r cynllun ar gael i fusnesau bychain ledled y DU.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Enterprise Nation.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.