BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynhadledd Iechyd a Gwaith am ddim yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Bydd y digwyddiad rhyngweithiol, rhad ac am ddim hwn yn cael ei gynnal yn rhithiol ac mae'n rhan o ymagwedd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) at ysbrydoli a hyrwyddo atal, rheolaeth a rheoli'n well risgiau ac achosion cyffredin salwch sy'n gysylltiedig â gwaith ledled Prydain Fawr.

Gan adeiladu ar lwyddiant cynhadledd y llynedd, a welodd alw enfawr, mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi cynyddu'r capasiti bumplyg i ddarparu 5,000 o leoedd i gynrychiolwyr. A bydd trafodaethau ar bynciau gan gynnwys straen sy'n gysylltiedig â gwaith ac iechyd meddwl, iechyd galwedigaethol, anhwylderau cyhyrysgerbydol, rheoli ymbelydredd yn y gweithle a chlefyd yr ysgyfaint galwedigaethol. 

Bydd cynrychiolwyr yn y digwyddiad yn gweld sut mae iechyd a gwaith yn esblygu nid yn unig i ymateb i'r pandemig, ond hefyd ynghylch y camau y mae angen i ni eu cymryd ar y cyd fel cyflogwyr, gweithwyr, rheoleiddwyr ac eraill i atal niwed a achosir gan salwch sy'n gysylltiedig â gwaith.

Bydd yn gyfle unigryw i fusnesau, sefydliadau’r sector cyhoeddus a'r trydydd sector, gweithwyr iechyd proffesiynol ac eraill ymgysylltu'n uniongyrchol ag arolygwyr rheoleiddio, gwyddonwyr ac arbenigwyr pynciau iechyd. 

Cynhelir y gynhadledd ar 15 Tachwedd 2022 a gallwch weld yr agenda drwy glicio ar y ddolen ganlynol Health & Work Conference 2022 (healthandworkconference.co.uk)

I gael mwy o wybodaeth ac i gofrestru ar gyfer y gynhadledd, cliciwch ar y ddolen ganlynol Health & Work Conference 2022 (healthandworkconference.co.uk)

 

 

 

Health & Work Conference 2022 (healthandworkconference.co.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.