BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Gohirio Taliadau TAW – cywiro camgymeriadau

Os ydych chi’n sylwi ar gamgymeriad ar ffurflen TAW sy’n gysylltiedig â’r cyfnod a gwmpesir gan y Cynllun Gohirio Taliadau TAW, dylech anfon ffurflen VAT652 at CThEM cyn gynted â phosibl.

Yna byddwch yn derbyn Datganiad o Gyfrif yn cadarnhau eich balans, ac os oes angen unrhyw daliadau ychwanegol o ganlyniad, gallwch gysylltu â CThEM i ohirio'r rhain hefyd, cyn diwedd mis Ionawr.

Gallwch:

  • dalu’r TAW gohiriedig yn llawn ar neu cyn 31 Mawrth 2021
  • dewis cofrestru ar y Cynllun Gohirio Taliadau TAW Newydd pan fydd yn cael ei lansio yn gynnar yn 2021 (rhagor o wybodaeth i ddilyn maes o law)
  • cysylltu â CThEM os oes angen rhagor o gymorth arnoch i dalu.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan GOV.UK 

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.