BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Grant Cymru Affrica 2023

Mae cynllun grantiau Cymru ac Affrica yn gronfa grantiau ar gyfer grwpiau cymunedol a mudiadau ledled Cymru sy’n gweithio mewn partneriaethau yn Affrica Is-Sahara.

Mae cynllun grantiau Cymru ac Affrica yn fenter flaenllaw gan raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru. Mae’r cynllun yn galluogi grwpiau cymunedol a mudiadau yng Nghymru i gael gafael ar gyllid ar gyfer prosiectau bach sy’n cyfrannu at waith Cymru o gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig a chyflwyno buddion i Gymru ac Affrica.

Mae rhaglen Cymru ac Affrica yn cefnogi ac annog cymdeithas sifil, busnesau a chyrff cyhoeddus yng Nghymru i weithredu ar dlodi yn Affrica drwy ddinasyddiaeth fyd-eang weithredol, cyfnewid sgiliau a dysgu o’i gilydd, gweithio mewn partneriaeth a gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd.

Gall ymgeiswyr wneud cais am gyllid rhwng £1,000-£25,000 a rhaid iddynt wneud cyfraniad diriaethol at o leiaf 1 o’r 4 thema a ddisgrifir isod:

  • Iechyd
  • Dysgu Gydol Oes
  • Y Newid yn yr Hinsawdd a’r Amgylchedd
  • Bywoliaeth gynaliadwy


Dyddiad cau ar gyfer cyflwyno 21 Gorffennaf 2023.

Am ragor o wybodaeth, ewch i Cynllun Grant Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru - CGGC (wcva.cymru)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.