BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Lansio: technoleg amaeth a thechnoleg bwyd, Canolbarth a Gogledd Cymru

Field of crops connected by a network of glowing lines, symbolizing the use of smart technology in modern agriculture.

gyfer prosiectau sy'n tyfu eu gweithgareddau arloesi yn y clwstwr technoleg amaeth a thechnoleg bwyd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru. Daw'r cyllid hwn gan Innovate UK.

Mae'r Cynllun Lansio hwn hefyd yn cefnogi consortiwm dan arweiniad Cyngor Sir Ceredigion fel y sefydliad rheoli clwstwr lleol.

Nod y gystadleuaeth hon yw cefnogi prosiectau arloesi rhagorol a arweinir gan fusnesau. Rhaid i'ch busnes ddefnyddio'r cyllid i dyfu eich gweithgareddau arloesi yn y clwstwr technoleg amaeth a thechnoleg bwyd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru, yn ystod ac ar ôl y prosiect. 

Ar gyfer y gystadleuaeth hon, mae Canolbarth a Gogledd Cymru yn cynnwys Ceredigion, Powys, Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Mae'n rhaid i'ch prosiect:

  • fod â chyfanswm cais am gyllid grant rhwng £25,000 a £100,000
  • para rhwng 6 a 12 mis
  • cyflawni ei holl waith prosiect yn y Deyrnas Unedig
  • bwriadu manteisio ar y canlyniadau o'r Deyrnas Unedig neu yn y Deyrnas Unedig
  • ddim dechrau cyn 1 Ebrill 2025
  • dod i ben ar 30 Mehefin 2026

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau yw 11 Rhagfyr 2024 am 11am.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Competition overview - Launchpad: agri-tech and food technology, Mid & North Wales – MFA - Innovation Funding Service

Mae gan Innovate UK ystod eang o gyfleoedd ariannu sydd ar gael i fusnesau Cymru i arloesi a buddsoddi mewn ymchwil, datblygu ac arloesi.

Gall tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gael gafael ar y cyllid hwn a chefnogi eich busnes ymhellach: Digwyddiadur Busnes Cymru - CRISP24 - Cyfarfod Cymorth Ar-lein (business-events.org.uk) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.