BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cynllun Rheoli Cymorth i Dyfu

Mae'r Cynllun Rheoli Cymorth i Dyfu yn cynnig 50 awr o hyfforddiant arwain a rheoli i arweinwyr busnes ar draws 12 wythnos.

Mae'n golygu y gall arweinwyr busnes, am gyn lleied â £750, elwa ar gymorth un-i-un gan fentor busnes, mynediad at rwydwaith o arweinwyr busnes o'r un meddylfryd, a chynllun twf pwrpasol i helpu'r busnes i gyrraedd ei lawn botensial.

Fe’i cynlluniwyd i fod yn rhaglen hyblyg i’w chyflawni ochr yn ochr â gwaith llawn amser, a bydd yn cefnogi arweinwyr busnesau bach i ddatblygu eu sgiliau strategol gyda modiwlau allweddol sy'n rhoi sylw i reolaeth ariannol, arloesedd a meithrin y maes digidol.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Homepage - Help to Grow
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.