BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth am gyllid - Arloeswyr Newydd ym maes technoleg amaeth a thechnoleg bwyd

Farmer using a digital tablet looking at crops in a field

Gall busnesau bach a microfusnesau sydd wedi’u cofrestru yn y DU wneud cais am gyfran o hyd at £400,000 ar gyfer prosiectau sy’n datblygu eu gweithgareddau arloesi ac sydd â llwybr clir at fasnacheiddio a thwf busnes, yn y clwstwr technoleg amaeth a thechnoleg bwyd yng Nghanolbarth a Gogledd Cymru.

Yn ogystal â’r cymorth grant, bydd Innovate UK, gan weithio gyda Llywodraeth Cymru, Cyngor Sir Ceredigion a Chyngor Gwynedd, yn cynnig cymorth busnes wedi’i deilwra gan arbenigwyr arloesi busnes lleol a Thwf Busnes Innovate UK.

Ar gyfer y gystadleuaeth hon, mae Canolbarth a Gogledd Cymru yn cynnwys Ceredigion, Powys, Ynys Môn, Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.

Bydd y gystadleuaeth yn cau am 10am ddydd Mercher 17 Gorffennaf 2024.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Competition overview - New Innovators in agri-tech & food technology, Mid & North Wales - Innovation Funding Service (apply-for-innovation-funding.service.gov.uk)

Mae gan Innovate UK nifer eang o gyfleoedd cyllid sydd ar agor i fusnesau Cymru i arloesi a fuddsoddi mewn Ymchwil Datblygu ac Arloesi.

Gall y tîm Arloesi Llywodraeth Cymru eich helpu i gyrchi’r cyllid yma ac i helpu’ch busnes yn bellach: Digwyddiadur Busnes Cymru - CRISP24 - Cyfarfod Cymorth Ar-Lein (business-events.org.uk)


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.