BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth: Canfod Nwyon Gwenwynig yn Gyflym

Brown glass bottle with poison symbol - skull and crossbones

A oes gennych ddatblygiad arloesol a allai roi rhybudd cynnar i arwyddo bod lefelau anniogel o nwyon gwenwynig mewn mannau prysur?

Mae’r Defence and Security Accelerator (DASA) wedi lansio Cystadleuaeth Thematig newydd o’r enw ‘Canfod Nwyon Gwenwynig yn Gyflym’. Mae’r gystadleuaeth newydd hon, sy’n cael ei rhedeg ar ran y Swyddfa Gartref, yn ceisio technolegau newydd sy’n helpu i ganfod nwyon gwenwynig yn gyflym er mwyn gallu rhoi rhybudd cynnar am lefelau anniogel o nwyon gwenwynig mewn mannau prysur posibl.

Gall nwyon gwenwynig gael eu rhyddhau’n gyflym mewn amgylchedd amgaeedig neu rannol amgaeedig ar ddamwain, wrth i offer gamweithredu neu gyda bwriad maleisus. Gall yr effaith fod yn drech na gweithdrefnau diogelwch presennol ac, o bosibl, arwain at effeithiau niweidiol ar iechyd y bobl yn y cyffiniau. Mae’r gystadleuaeth yn chwilio am atebion technolegol newydd i wrthsefyll yr her hon i iechyd a diogelwch.

Cyfanswm y cyllid posibl sydd ar gael ar gyfer Cam 1 y gystadleuaeth thematig hon yw £1.6 miliwn, gydag uchafswm o £200,000 fesul cynnig.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cynnig yw canol dydd (GMT), dydd Iau 28 Mawrth 2024.

Darllenwch ddogfen lawn y gystadleuaeth i ddysgu rhagor a gwneud cynnig.

Am ragor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Keeping people safe in busy spaces: £1.6 million Themed Competition launched - GOV.UK 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.