BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Cystadleuaeth gyllido y DU-Canada: gwella cynhyrchiant a chynaliadwyedd amaethyddol

Mae’r DU a Chanada yn cyd-gynnal cystadleuaeth gyllido i gefnogi prosiectau ymchwil a datblygu ar y cyd i ddatblygu cynnyrch, prosesau a gwasanaethau newydd.

Rhaid i'r prosiectau dargedu gwelliant o ran cynhyrchiant a chynaliadwyedd systemau cnydau, da byw a dyframaeth.

Croesewir cynigion:

  • sy’n cyfuno technolegau digidol, deallusrwydd artiffisial, cymhwyso datrysiadau data mawr a pheirianneg ag elfennau biolegol, amgylcheddol a/neu wyddor gymdeithasol i yrru cynhyrchiant
  • datblygu technolegau a datrysiadau sy’n cysylltu ffermydd a chadwyni cyflenwi
  • trosglwyddo technoleg o sector arall i amaethyddiaeth, cyhyd â bo angen arloesi i wneud hyn

Y dyddiad cau ar gyfer y gystadleuaeth yw 5pm ar 24 Mehefin 2020.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan GOV.UK.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.