BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Darparu gwybodaeth fasnach ar gyfer llety gwyliau hunanarlwyo

Tenby

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) yn ysgrifennu at rai perchnogion llety gwyliau hunanarlwyo sy’n cael eu hasesu ar gyfer ardrethi busnes er mwyn cael rhagor o wybodaeth am incwm a gwariant yr eiddo hwn.

Y llynedd, ysgrifennodd y VOA at y rhan fwyaf o berchnogion llety gwyliau hunanarlwyo yng Nghymru a Lloegr gan ofyn iddynt ddarparu gwybodaeth am osod eu heiddo.

Defnyddiwyd y wybodaeth hon i benderfynu a ddylid asesu eiddo ar gyfer ardrethi busnes neu’r Dreth Gyngor.

Os penderfynodd y VOA y dylai eich eiddo gael ei asesu ar gyfer ardrethi busnes, gallech dderbyn ffurflen arall sy’n gofyn am wybodaeth ychwanegol.

I brisio llety gwyliau hunanarlwyo, bydd angen gwybodaeth ar y VOA am eich incwm a’ch gwariant. Anfonir y ffurflenni rhwng Chwefror ac Awst.

Os byddwch yn derbyn ffurflen gan y VOA yn gofyn am wybodaeth am eich llety gwyliau hunanarlwyo, mae’n bwysig eich bod yn ei dychwelyd o fewn 56 diwrnod o’i hanfon. Os na wnewch chi hynny, efallai bydd rhaid i chi dalu cosb.

I gael rhagor o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Providing trade information for self-catering holiday lets - GOV.UK 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.