BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datblygu Ysgogwyr Newid y Genhedlaeth Nesaf

Os:

  • ydych chi rhwng 18 a 30 oed
  • ydych chi’n perthyn i gymuned pobl ddu neu leiafrifoedd ethnig sy’n byw yng Nghymru
  • oes gennych chi syniad busnes, talent a/neu sgil
  • oes gennych chi uchelgais i wneud newid cadarnhaol i’n cymunedau trwy eich syniadau busnes arloesol

Ymunwch â  ASSADAQAAT Community Finance i rannu eich syniadau a dysgu sut i droi eich cynnyrch neu wasanaeth yn realiti masnachol.

Mae’r ‘rhaglen flasu’ undydd hon wedi’i llunio i roi trosolwg i chi o’r hyfforddiant, sgiliau, cyngor, mentora a’r cymorth ariannol sydd ar gael. Bydd rhai o’r pynciau allweddol yr eir i’r afael â nhw yn cynnwys: 

  • Datblygu eich gweledigaeth
  • Mapio eich syniadau
  • Datblygu meddylfryd entrepreneuraidd
  • Dod yn ysgogwr newid
  • Marchnata eich syniadau
  • Ariannu eich syniadau

Dyddiad: Dydd Sadwrn 17 Mehefin 2023

Amser: 10:30am tan 4:00pm

Lleoliad: Tramshed Tech – Uned D, Stryd Pendyris, Caerdydd, CF11 6BH

Am ragor o wybodaeth ac i gadw eich lle, cliciwch y ddolen ganlynol ACF Youth Changemakers Event (tfaforms.com) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.