BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad yr Hydref Llywodraeth y Deyrnas Unedig

Money image

Mae’r Canghellor wedi cyhoeddi ei Ddatganiad yr Hydref. Nodir rhai pwyntiau allweddol isod:

  • Bydd y Cyflog Byw yn cynyddu 9.8% i £11.44 yr awr.
  • Newidiadau i Yswiriant Gwladol.
  • Cynnydd o 8.5% i £221.20 yng Nghyfraniad Pensiwn y Wladwriaeth o fis Ebrill 2024.
  • Bydd £50m o fuddsoddiadau codi’r gwastad yn cael eu gwneud ledled Cymru, gan gynnwys ym Mhowys, Sir Ddinbych, Llanelli a Sir Fynwy.
  • Bydd £500,000 hefyd yn cael ei fuddsoddi yng Ngŵyl y Gelli.
  • Yn ogystal, bydd parthau buddsoddi yn cael eu creu yn Wrecsam a Fflint er mwyn rhoi hwb ariannol i’r ardaloedd a’u helpu nhw i ddatblygu.
  • Daw hyn ynghyd â’r newyddion bod rhyddhad treth ar gyfer porthladdoedd rhydd yn cael ei ymestyn o bump i ddeng mlynedd, sydd o fudd i Ynys Môn a Sir Benfro.

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddoleni ganlynol: 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.