BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Cyhoeddi ystadegau alldro cyfraddau treth incwm Cymru

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol.

Mae Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi wedi cyhoeddi’r ail set o ystadegau alldro blynyddol ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru, gan nodi cam pwysig arall yn y broses o ddatganoli trethi i Gymru. Mae’r ystadegau alldro yn dangos y codwyd £2,140m drwy gyfraddau treth incwm Cymru yn 2020-21, sy’n gynnydd o 4.9% o gymharu â 2019-20.

Dyma ddolen at yr ystadegau:
https://www.gov.uk/government/statistics/welsh-income-tax-outturn-statistics-2020-to-2021

Mae’r ystadegau alldro ar gyfer treth incwm yn darparu refeniw cyfraddau treth incwm Cymru a’r refeniw Treth Incwm cyfatebol ar gyfer gweddill y DU. Defnyddir y ffigurau hyn i gyfrifo’r Addasiad i Grant Bloc Llywodraeth Cymru a’r gostyngiad yn y cyllid gan Lywodraeth y DU i ystyried y refeniw y mae Llywodraeth Cymru yn ei gael yn uniongyrchol o’r trethi datganoledig.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i Datganiad Ysgrifenedig: Cyhoeddi ystadegau alldro cyfraddau treth incwm Cymru (8 Gorffennaf 2022) | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.