BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Cyllid i fynd i’r afael â thlodi bwyd

Jane Hutt, Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol

Wrth i brisiau ynni barhau i godi ac wrth i bobl ymrafael ag effaith cynnydd mewn chwyddiant ar incwm eu haelwydydd, mae awdurdodau lleol, banciau bwyd a grwpiau cymorth cymunedol ar draws Cymru yn nodi cynnydd yn y nifer sy’n manteisio ar fanciau bwyd a darpariaeth fwyd arall a gynigir o fewn y gymuned. Mewn rhai ardaloedd, mae sefydliadau wedi gweld cynnydd o dros 100% yn y galw am fwyd brys. Ar yr un pryd, o ganlyniad i’r argyfwng costau byw, mae sefydliadau wedi gweld gostyngiad mewn rhoddion.

Fel rhan o’n hymrwymiad i flaenoriaethu cymorth i bobl sy’n cael eu heffeithio gan yr argyfwng costau byw, heddiw (4 Hydref) rwy’n cyhoeddi £1 miliwn arall i fynd i’r afael â thlodi bwyd. Mae’r cyllid ychwanegol hwn yn adeiladu ar y £3.9 miliwn a ddyrannwyd eisoes yn y flwyddyn ariannol hon gan Lywodraeth Cymru i helpu i liniaru tlodi bwyd a mynd i’r afael â gwraidd y broblem.
Bydd y £1m ychwanegol yn cael ei ddosbarthu drwy awdurdodau lleol yng Nghymru yn ystod yr wythnosau nesaf. Dylai sefydliadau a fyddai, o bosibl, yn dymuno elwa ar y cymorth hwn gysylltu â’u hawdurdod lleol i drafod.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i https://llyw.cymru/datganiad-ysgrifenedig-cyllid-i-fynd-ir-afael-thlodi-bwyd 
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.