BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Diweddariad ar gynigion am ardoll ymwelwyr ddewisol i Gymru

Rebecca Evans AS, y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

"Heddiw (30 Mawrth 2023), rwy’n darparu diweddariad ar ein cynnig i roi’r pŵer i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr ddewisol. Cost fach fyddai’r ardoll, a delir gan bobl a fyddai’n aros dros nos mewn llety masnachol, er mwyn codi arian newydd i’w ail-fuddsoddi mewn ardaloedd lleol.

Caiff y gwaith hwn ei wneud fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.

Daeth ymgynghoriad cyhoeddus i ben ar 13 Rhagfyr 2022. Roedd yn ystyried y cynllun arfaethedig ar gyfer yr ardoll ymwelwyr a sut gellid ei weithredu ar lefel ymarferol. Comisiynwyd adroddiad annibynnol o’r ymatebion ym mis Ionawr, a heddiw rwy’n cyhoeddi canfyddiadau’r ymgynghoriad hwn ardoll-ymwelwyr-cynodeb-or-ymatebion ochr yn ochr ag adroddiad ymchwil defnyddwyr, a oedd yn ystyried safbwyntiau’r cyhoedd ynghylch ardoll ymwelwyr.

Cawsom fwy na 1,000 o ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus, ac rwy’n ddiolchgar i bawb am eu hymatebion a’u hadborth. Rwy’n cydnabod y pryderon a godwyd gan gynrychiolwyr y sector twristiaeth a hoffwn roi sicrwydd i berchnogion busnesau ein bod yn ymrwymedig i gefnogi busnesau drwy’r heriau economaidd presennol.

Byddwn yn parhau gyda chynigion deddfwriaethol sy’n galluogi i awdurdodau lleol godi ardoll ymwelwyr yn eu hardaloedd. Wrth inni ddatblygu’r polisi ardoll ymwelwyr, byddwn yn ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad er mwyn helpu i lywio cynnig sy’n gweithio’n dda ledled Cymru."

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddoleni ganlynol:


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.