BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Ffermio yng Nghymru

Cows in a field in Barafundle Bay, Pembrokeshire

Mark Drakeford AS, Prif Weinidog

Lesley Griffiths AS, y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

Mae ffermio – ac amaethyddiaeth yn ehangach – yn chwarae rhan bwysig ym mywyd Cymru. Mae'n rhan o'n heconomi, ein hunaniaeth a'n diwylliant.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi dyfodol llwyddiannus i ffermio yng Nghymru. Rydym am gadw ffermwyr Cymru yn ffermio, wrth i ni fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a natur gyda’n gilydd.

Mae'r sector yn wynebu heriau sylweddol o ganlyniad i chwyddiant a chostau ynni cyson uchel, ansefydlogrwydd byd-eang, costau mewnbwn uchel a phrisiau cyfnewidiol wrth gât y fferm ynghyd â newid sylweddol yn y diwydiant.

Rydym yn parhau i wrando’n ofalus ar bryderon ffermwyr a’u hundebau, gan gynnwys y rheini am rai o bolisïau Llywodraeth Cymru. Gallwn gadarnhau heddiw (27 Chwefror 2024) ein bod yn cymryd y camau canlynol i helpu’r sector:

  • TB Gwartheg a difa gwartheg ar y fferm: Rydym yn penodi Grŵp Cynghori Technegol TB Gwartheg, fel y cyhoeddwyd yn flaenorol ym mis Tachwedd. Ei flaenoriaeth cyntaf fydd edrych ar y polisi difa ar y fferm a rhoi cyngor i Weinidogion, fel mater o frys.
  • Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru): Rydym yn neilltuo £20m yn ychwanegol o arian i helpu ffermwyr i gydymffurfio â’r gofynion a byddwn yn lansio rownd newydd o’r Cynllun Buddsoddi mewn Rheoli Maethynnau cyn hir.
  • Y Cynllun Ffermio Cynaliadwy: Rydym wedi bod yn cydweithio gyda ffermwyr dros y saith mlynedd diwethaf i ddylunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS) – math newydd o gymorth i ffermwyr yng Nghymru i sicrhau'r cynhyrchiant bwyd a'r gwelliannau amgylcheddol sydd eu hangen ar Gymru i gadw ffermwyr ar eu tir am genedlaethau i ddod wrth i'r hinsawdd newid. Bydd yr SFS yn ein helpu i wireddu'r ymrwymiadau rydym wedi'u gwneud i bawb yng Nghymru, gan sicrhau dyfodol cryfach a gwyrddach i bob un ohonom a sicrhau bod ffermio cynaliadwy yn darparu manteision i’r cyhoedd yn gyfnewid am arian y cyhoedd. Daw'r ymgynghoriad presennol ar yr SFS i ben ar 7 Mawrth 2024. 

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol: Datganiad Ysgrifenedig: Ffermio yng Nghymru (27 Chwefror 2024) | LLYW.CYMRU


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.