BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datganiad Ysgrifenedig: Y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu – y cyngor terfynol ar bwy sy’n gymwys ar gyfer brechiad atgyfnerthu COVID-19 yn hydref 2023

Group of People Applauding

Eluned Morgan AS, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn bwyllgor cynghori arbenigol annibynnol. Mae’n rhoi cyngor i adrannau iechyd y Deyrnas Unedig ar imiwneiddio, gan wneud argymhellion am amserlenni brechu a diogelwch brechlynnau.

Fel rhan o’i adolygiad diweddaraf o raglen frechu COVID-19, mae’r JCVI heddiw (30 Awst 2023) wedi cyhoeddi datganiad yn cynnwys ei gyngor terfynol ar bwy sy’n gymwys yn rhaglen frechiadau atgyfnerthu’r hydref yn erbyn COVID-19 yn 2023. Fel erioed, prif nod rhaglen frechu COVID-19 yw hybu imiwnedd ymhlith y rheini sydd â risg uwch pe baent yn cael COVID-19 a sicrhau mwy o amddiffyniad rhag salwch difrifol, mynd i’r ysbyty a marwolaeth.

I gael rhagor o wybodaeth, dilynwch y ddolen ganlynol Datganiad Ysgrifenedig: Y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu. Rhaglen brechiadau atgyfnerthu COVID-19 yr hydref (30 Awst 2023) | LLYW.CYMRU
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.