BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Datrysiadau ar gyfer Twf Glân sydd wedi’u Hysbrydoli gan Natur: Cyfres o weminarau

Dros yr haf, bydd Grŵp Diddordeb Arbennig Datrysiadau wedi’u Hysbrydoli gan Natur KTN (NIS SIG) yn cynnal cyfres o weminarau byr i bwyso a mesur sut gall mecanweithiau naturiol ysgogi gwaith cynllunio, llywio prosesau a systemau a sbarduno twf glân yn y DU.

Mae’r sesiwn gyntaf yn ymchwilio i rôl datrysiadau sy’n cael eu hysbrydoli gan natur wrth weddnewid y diwydiant adeiladu. Trwy ddatgelu’r mecanweithiau a ddefnyddir ym myd natur, gallwch weld sut i’w defnyddio wrth gynllunio cynhyrchion, prosesau neu systemau newydd.

Dyma ddyddiadau a phynciau ar gyfer y gweminarau:

  • Adeiladu wedi’i ysbrydoli gan natur – 23 Mehefin 2020 – 11am i 12pm, archebwch eich lle yma  

Nodwch y dyddiadau ar gyfer y gweminarau canlynol. Bydd y manylion cofrestru ar gael maes o law:

  • Gweithgynhyrchu wedi’i ysbrydoli gan natur – 14 Gorffennaf 2020
  • Peirianneg wedi’i ysbrydoli gan natur – 4 Awst 2020
  • Hedfan yn y dyfodol ac ysbrydoliaeth gan natur – 28 Awst 2020

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan KTN.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.