BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Defnyddwyr Ap COVID-19 y GIG nawr yn gymwys i wneud cais am daliad hunanynysu o £500

O 1 Chwefror, bydd defnyddwyr yr ap sy’n cael gwybod eu bod wedi dod i gysylltiad â’r feirws, ac sydd ar incwm isel ac mewn perygl o ddioddef caledi ariannol yn gymwys ynghyd â’r bobl sydd wedi cael cyfarwyddyd i hunanynysu gan y gwasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu, neu rieni y mae lleoliad addysg wedi gofyn i’w plentyn hunanynysu.

I fod yn gymwys i wneud cais, bydd angen i ddefnyddwyr yr ap fodloni meini prawf y prif gynllun. Rhaid iddynt fod:

  • yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig;
  • ddim yn gallu gweithio gartref ac yn mynd i golli incwm o ganlyniad; ac
  • (yr ymgeisydd neu eu partner) yn derbyn Credyd Cynhwysol, Credyd Treth Gwaith, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth seiliedig ar incwm, Lwfans Ceisio Gwaith seiliedig ar incwm, Cymhorthdal Incwm, Budd-dal Tai a/neu Gredyd Pensiwn ar hyn o bryd; neu
  • Bod eu cais wedi’i dderbyn o dan elfen ddewisol y Cynllun Taliadau Cymorth Hunanynysu.

I gael rhagor o wybodaeth ewch i wefan Llyw.Cymru.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.