BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiad Briffio: Gwobrau Menywod sy’n Arloesi Innovate UK 2024/25

Female engineer wearing a Hijab

Bydd cystadleuaeth Menywod sy’n Arloesi Innovate UK 2024/25 yn rhoi hyd at £75,000 o gyllid grant i 50 o fenywod ynghyd â phecyn cynhwysfawr sy’n cynnwys mentora, rhwydweithio, hyfforddiant a hyfforddiant busnes 1-i-1. Bydd ceisiadau ar gyfer gwobrau Menywod sy’n Arloesi Innovate UK 2024/25 yn agor ar 13 Mai 2024.

Bydd y Digwyddiad Briffio yn trafod meini prawf cymhwysedd, cwestiynau cyffredin, hyd a lled y cais, sut i fynd ati i wneud cais a bydd enillwyr blaenorol yn sôn am y gwobrau. 

Cynhelir y digwyddiad briffio ar-lein ar 14 Mai 2024.

Dewiswch y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru am le: Summary - Innovate UK Women in Innovation Awards 2024/25 Briefing Event (cvent.com)

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.