BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiadau Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024

International Women's Day 2024 Event

Bydd Cardiff Devils a Weboss yn cynnal eu dathliad agoriadol ar gyfer Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2024 yn Vindico Arena ar 8 Mawrth 2024, o 12pm tan 2pm. Nod y digwyddiad yw anrhydeddu ac arddangos cyflawniadau menywod mewn busnes, gan bwysleisio cynwysoldeb, gwydnwch a chreadigrwydd.

Bydd siaradwyr yn rhannu eu mewnwelediadau o fenywod ym meysydd busnes a chwaraeon. Mae’r digwyddiad ymgynnull hwn yn gyfle unigryw i rwydweithio, rhannu profiadau, a meithrin cymorth ymhlith unigolion o’r un anian.

I gael manylion ychwanegol a sicrhau eich tocynnau, ewch i dudalen swyddogol Eventbrite: International Women's Day 2024 Tickets, Fri 8 Mar 2024 at 12:00 | Eventbrite.


Grymuso Llwyddiant: Digwyddiad 'She Who'. Bydd digwyddiad ‘She Who’ yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod trwy rymuso ac ysbrydoli menywod o bob cefndir.

Nod y digwyddiad, sy’n cael ei gynnal ar 7 Mawrth 2024, yw dod â menywod at ei gilydd mewn cyfnodau amrywiol o’u gyrfaoedd. I gofrestru ar gyfer y digwyddiad, dewiswch y ddolen ganlynol: She Who Tickets, Thu 7 Mar 2024 at 10:00 | Eventbrite


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.