BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiadau Expo Busnes Cymru

Green arrows and Welsh flag

Cyfres newydd o ddigwyddiadau gan Busnes Cymru, yn cefnogi'r Economi Sylfaenol yng Nghymru.

Archwiliwch gyfleoedd lleol ar gyfer eich busnes yn ein Harddangosiadau unigryw a gyflwynir gan y tîm Economi Sylfaenol a Busnes Cymru.

Gyda ffocws ar sectorau economi sylfaenol allweddol fel bwyd, gofal cymdeithasol, adeiladu, tai, manwerthu a datgarboneiddio trafnidiaeth, gan gynnwys llawer o gyfleoedd i fusnesau bach a chanolig sy'n cyflenwi ac yn darparu ar gyfer y sectorau hyn, mae rhywbeth at ddant pawb.

Ymunwch â ni ar gyfer Expo Busnes Cymru chwyldroadol, rhad ac am ddim i’w fynychu, lle byddwch yn cael cyfle unigryw i gymryd rhan mewn cyfarfodydd wyneb yn wyneb un-i-un gyda sefydliadau blaenllaw Cymru sy’n awyddus i wella eu cadwyni cyflenwi lleol.

Manylion digwyddiadau isod:

  • 10 Medi 2024 – Arena Abertawe
  • 2 Hydref 2024 – Venue Cymru Llandudno

Cofrestrwch nawr i gysylltu â phrynwyr a chyfleoedd sy'n cyd-fynd â'ch busnes a'ch setiau sgiliau!

Cliciwch ar y ddolen sydd wedi’i hatodi i gael rhagor o wybodaeth:  Business Wales Expo


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.