BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Digwyddiadau Hamdden a Gweminarau VisitBritain

Teulu  Ynys Llanddwyn

Ar hyn o bryd mae VisitBritain wrthi’n cynllunio eu rhaglen digwyddiadau B2B ar gyfer 2024 a 2025. 

Mae'r digwyddiadau hyn yn gyfle gwych i gwrdd â gweithredwyr allweddol yn y farchnad deithio ac i ddysgu am y marchnadoedd hynny oddi wrth eu timau. Mae'r rhaglen arfaethedig yn cynnwys digwyddiadau yn Awstralia, Brasil, y Dwyrain Canol ac Asia, yr Almaen, UDA, Ffrainc, Sbaen, Tsieina a’r gwledydd Nordig. Mae rhaglen lawn o ddigwyddiadau, a ffurflen mynegi diddordeb ar gyfer digwyddiadau nad ydynt ar agor eto, ar gael yma:  Leisure Trade Events 2024/25 | VisitBritain.org

Gallwch hefyd gofrestru nawr ar gyfer Gweminarau Marchnadoedd Rhyngwladol rhad ac am ddim VisitBritain, sy’n gyfle i ddysgu oddi wrth arbenigwyr yn y farchnad a fydd yn rhannu gwybodaeth gynhwysfawr am yr hyn sy'n digwydd yn y rhanbarth o safbwynt defnyddwyr a’r diwydiant ac unrhyw weithgareddau a chyfleoedd sydd ar ddod.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â Flavia.Messina@visitbritain.org (Rheolwr Ymgysylltu â’r Diwydiant, VisitBritain) ac ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill, cysylltwch â thîm Diwydiant Teithio Croeso Cymru ar traveltradewales@gov.wales


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.