BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diogelwch digwyddiadau yr haf hwn

Mae cynllunio a threfnu da yn hanfodol i gynnal digwyddiad sy'n ddiogel ac yn bleserus.

Gallwch ddechrau gydag arweiniad i drefnwyr yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) ar sut i gynllunio, rheoli a monitro eich digwyddiad. Bydd yn eich helpu i sicrhau nad yw gweithwyr a'r cyhoedd sy'n ymweld yn agored i risgiau iechyd a diogelwch.

P'un a ydych yn drefnydd, yn berchennog lleoliad neu'n wirfoddolwr, darganfyddwch fwy am eich cyfrifoldebau.

Gan dibynnu ar faint eich digwyddiad, efallai y bydd angen i chi gymryd camau ychwanegol hefyd er mwyn rheoli torfeydd yn ddiogel.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Events health and safety (hse.gov.uk) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.