BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diweddariad ar feini prawf cymhwysedd: Cynllun Rheoli Cymorth i Dyfu

Bydd cynllun gan lywodraeth y DU i hybu cynhyrchiant a thwf cymuned fusnes y wlad yn y dyfodol o fudd i hyd yn oed mwy o entrepreneuriaid.

Mae'r Cynllun Rheoli Cymorth i Dyfu yn cynnig 50 awr o hyfforddiant arwain a rheoli i arweinwyr busnes ar draws 12 wythnos.
Mae'n golygu y gall arweinwyr busnes, am gyn lleied â £750, elwa ar gymorth un-i-un gan fentor busnes, mynediad at rwydwaith o arweinwyr busnes o'r un meddylfryd, a chynllun twf pwrpasol i helpu'r busnes i gyrraedd ei lawn botensial.

Hyd at 14 Mehefin 2022, dim ond un cyfranogwr y gallai busnesau cymwys ei gael ar y cynllun. Mae'r meini prawf wedi newid a bydd busnesau sydd â 10 neu fwy o weithwyr yn gymwys i gael hyd at 2 gyfranogwr yn ymuno â'r cynllun. Hefyd, bydd cyfranogwyr blaenorol ar y Rhaglen Arweinyddiaeth Busnesau Bach bellach yn gymwys i ymuno â'r cynllun.

I gael mwy o wybodaeth, ewch i More business leaders to benefit from Help to Grow: Management scheme - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.