BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwrnod Rhuban Gwyn 2023

White Ribbon day

Diwrnod Rhuban Gwyn yw'r diwrnod a gydnabyddir yn rhyngwladol lle mae dynion yn dangos eu hymrwymiad blwyddyn o hyd i roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched, ac fe’i gynhelir ar 25 Tachwedd 2023.

Nid yw newid diwylliant yn digwydd dros nos, ond gallwn roi terfyn ar drais yn erbyn menywod a merched yn ystod ein hoes. Eleni, mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn annog unigolion a sefydliadau i wneud dewisiadau a chymryd camau gweithredu dyddiol fel ein bod yn #ChangeTheStory i fenywod a merched fyw eu bywydau’n rhydd rhag ofn trais. 

Daw trais a brofir gan fenywod a merched ar sawl ffurf. Gall rhai ymddygiadau a geiriau ymddangos yn 'ddiniwed' ond mae eu normaleiddio nhw yn anwybyddu'r effeithiau tymor byr a hirdymor ar fenywod, a gall arwain at drais mwy eithafol.

Ni ddylid tanbrisio bod yn gynghreiriaid â menywod bob dydd; gall hyd yn oed y camau lleiaf achosi newid mawr. 

Mae hyn yn dechrau drwy herio'r agweddau a'r ymddygiadau sy'n ymddangos yn 'ddiniwed ' sy'n parhau trais i fenywod a merched.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol White Ribbon Day 2023 — White Ribbon UK

Fel cyflogwr, gallwch chwarae rôl bwysig wrth roi sicrwydd i staff sy'n dioddef trais neu gam-drin domestig bod cefnogaeth ar gael, gan gynnwys cefnogaeth ar-lein, llinellau cymorth, llinellau cymorth, llochesi a'r heddlu.

Os ydych chi, aelod o'ch teulu yn ffrind, neu'n rhywun rydych yn poeni amdano wedi dioddef cam-drin domestig neu drais rhywiol, gallwch gysylltu â Llinell Gymorth Byw Heb Ofn 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos, i gael cyngor a chefnogaeth am ddim neu i drafod eich opsiynau.

Cysylltwch â chynghorwyr Byw Heb Ofn am ddim dros y ffôn, sgwrs ar-lein, neges destun neu e-bost:

I gael mwy o wybodaeth am gefnogi gweithwyr sydd mewn perygl o gam-drin domestig, ewch i Busnes Cymru


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.