BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwygiadau i Gyfraith Cyflogaeth yr UE a Ddargedwir

Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi cynigion ar gyfer meysydd allweddol cyfraith cyflogaeth yr UE a ddargedwir y mae'r Adran Busnes a Masnach (DBT) yn gyfrifol amdanynt.

Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar 3 maes cyfraith cyflogaeth yr UE a ddargedwir a allai elwa o gael eu diwygio:

  • gofynion cadw cofnodion o dan y rheoliadau oriau gwaith
  • symleiddio cyfrifiadau gwyliau blynyddol a thâl gwyliau yn y rheoliadau oriau gwaith
  • gofynion ymgynghori o dan reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) (TUPE)

Daw'r ymgynghoriad i ben ar 7 Gorffennaf 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Retained EU employment law reforms - GOV.UK (www.gov.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.