BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Diwygio’r Dreth Gyngor yng Nghymru

Criccieth, Gwynedd, Wales, a man using his ride on mower to cut the grass on a hillside around his cabin.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Asiantaeth y Swyddfa Brisio (VOA) ddechrau paratoi i gynnal ailbrisiad arfaethedig o bob un o’r 1.5 miliwn eiddo domestig yng Nghymru.

Fel rhan o hyn rydym wedi cysylltu â phreswylwyr sy’n byw ar ffermydd gweithiol neu mewn cartrefi symudol, yn gofyn am wybodaeth. Gallwch gael rhagor o wybodaeth drwy fynd i Gwybodaeth am ffermdai ac eiddo amaethyddol, a charafanau preswyl a chartrefi parc (holiadur) - GOV.UK  

Mae angen i chi gwblhau’r holiadur hwn o fewn 21 diwrnod o’r dyddiad yr ysgrifennodd Asiantaeth y Swyddfa Brisio atoch yn gofyn am yr wybodaeth hon.

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd safbwyntiau ar yr opsiynau ar gyfer diwygio Treth Gyngor yng Nghymru. Gallwch ddarllen y ddogfen ymgynghori drwy fynd i Diwygio'r Dreth Gyngor | LLYW.CYMRU

Nid oes unrhyw newidiadau ar hyn o bryd i fandiau Treth Gyngor.

Dim ond os ydym wedi gofyn i chi wneud hynny y bydd angen i chi ddarparu gwybodaeth i’r VOA. 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.