BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Dyfarniad Arloeswyr Amrywiol

Mae Innovate UK yn ceisio datgelu talentau cudd ledled y DU a hoffai droi syniadau gwych yn llwyddiannau busnes mawr y dyfodol.
Felly, os oes gennych chi syniad gwych neu fusnes sydd ag uchelgais fawr, dyma’r lle i chi.

Mae’r cyfle hwn wedi’i lunio i ddatgloi grym amrywiaeth a chefnogi talentau sydd wedi’u tangynrychioli ar draws y DU.

Mae dwy lefel o gymorth: 

  1. Begin – Os oes gennych chi fusnes arloesol sydd yn ei gamau cynnar neu os ydych chi’n barod i droi eich syniadau’n fusnes. Gallech chi ennill £15,000* a chymorth a mentora wedi’u teilwra! (*Grant o £5,000 a lwfans byw o £10,000).
  2. Build – Oes gennych chi fusnes sefydledig? Gall pethau ond gwella â chyfle i ennill £50,000 o gyllid a phecyn cymorth wedi’i deilwra i dyfu eich busnes.

Mae ceisiadau ar gyfer Diverse Innovators Awards yn agor ar 10 Gorffennaf 2023.

Cofrestrwch ar gyfer digwyddiad briffio ar y gystadleuaeth, sy’n cael ei gynnal ar 11 Gorffennaf 2023. Cofrestrwch drwy glicio’r ddolen ganlynol Diverse Innovators Competition Briefing - Innovate UK KTN (ktn-uk.org) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.