Mae Furlonteer.com yn galluogi i elusennau ddod o hyd i wirfoddolwyr a all lenwi swyddi hollbwysig ac amrywiol yn ystod y cyfnod hwn; gallai fod yn unrhyw beth o farchnata digidol, codi arian a TG i gadw llyfrau, adnoddau dynol a datblygu busnes.
Gall gweithiwr ar ffyrlo gymryd rhan mewn gwaith gwirfoddol, os nad yw’n darparu gwasanaethau i neu’n cynhyrchu refeniw i’ch sefydliad neu’n gwneud hynny ar ei ran neu ar ran sefydliad cysylltiedig.
Mae pobl ar ffyrlo yn cael eu paru â chyfleoedd gwirfoddoli ar sail meini prawf fel eu sgiliau, profiad a faint o amser sydd ganddynt ar gael, a all amrywio o rai oriau’r mis i sawl awr y dydd.
Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Furlonteer.