BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Galw am Dafarndai Dementia-gyfeillgar

Mae ymgyrch i wneud tafarndai, bwytai a chaffis ledled y DU yn fwy dementia-gyfeillgar wedi cael ei lansio gan arbenigwyr o'r Alban sy'n ymchwilio i effaith heneiddio.

Mae Canolfan Datblygu Gwasanaethau Dementia (DSDC) Prifysgol Stirling, sy'n enwog yn rhyngwladol, wedi datblygu cynllun ardystio a fydd yn annog perchnogion tafarndai a bwytai i wneud addasiadau i bobl â chyflyrau dirywiol sy'n gysylltiedig ag oedran.

Er mwyn cefnogi hyn, mae DSDC wedi lansio offeryn newydd gydag arweiniad a chyngor i helpu tafarndai a bwytai i wneud newidiadau bach sy'n gwneud gwahaniaeth go iawn. Gall tafarndai a bwytai ddefnyddio'r Offeryn Asesu Dylunio Amgylcheddau ar gyfer Heneiddio a Dementia (EADDAT) i ddeall sut y gall eu gofod fod yn fwy cefnogol i bobl sy'n byw gyda dementia.

Bydd y cynllun gwirfoddol yn gwneud y mannau’n fwy hygyrch i bobl â chyflyrau fel dementia ac Alzheimer's fel y gallant fwynhau mynd allan gyda'u teuluoedd a'u gofalwyr.
I ddarganfod mwy am EADDAT a sut y gall weithio i'ch busnes, cysylltwch â DSDC ar dementia@stir.ac.uk neu cliciwch ar y ddolen ganlynol Dementia-friendly Pub Call — Dementia Services Development Centre (stir.ac.uk) 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.