BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Galwad am gyllid SCoRE Cymru

Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu hyd at £120,000 o gyllid i gefnogi mwy o gydweithredu economaidd â rhanbarthau Baden Württemberg, Llydaw a Fflandrys.

Mae'r fenter yn agored i geisiadau gan bob sefydliad yng Nghymru sydd bellach yn canolbwyntio ar weithgarwch yn ystod y flwyddyn ariannol hon (hyd at 31 Mawrth 2023).

Mae'r manylion llawn ar gael yma: Ariannu: SCoRE Cymru | LLYW.CYMRU

I gael rhagor o wybodaeth neu i drafod cynnig, cysylltwch ag Uned Horizon Ewrop Llywodraeth Cymru drwy  HorizonEurope@llyw.wales

 


 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.