BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gohirio Diwrnod Aer Glân Cymru tan Hydref 2020

Mae Diwrnod Aer Glân Cymru, a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, yn rhan o ymgyrch llygredd aer fwyaf y DU ac ymgyrch codi ymwybyddiaeth o ansawdd aer fwyaf Cymru.

Cynhelir Diwrnod Aer Glân fel arfer ar y trydydd dydd Iau ym mis Mehefin. Eleni, yn sgil COVID-19, cynhelir y Diwrnod Aer Glân ar 8 Hydref 2020.

Mae sawl ffordd o gymryd rhan a gallwch lawrlwytho adnoddau am ddim ar gyfer eich gweithle, grŵp cymunedol neu ysgol.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Diwrnod Aer Glân.


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.