BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grant Menywod mewn Peirianneg 2023

Ydych chi'n arweinydd benywaidd menter ym maes peirianneg yn y DU?

Ydych chi'n chwilio am gyllid i symud eich sefydliad i'r lefel nesaf?

Os ydych chi, gallai'r grant hwn fod yn addas i chi. Mae'n bleser gan yr arbenigwr gweithgynhyrchu, Get It Made, gyhoeddi grant newydd, sydd â’r nod o gefnogi mentrau peirianneg dan arweiniad menywod a helpu i annog y genhedlaeth nesaf o fenywod ym maes peirianneg yn y DU. Mae'r grant gweithgynhyrchu'n cynnwys £5,000 (ac eithrio TAW) y gellir ei ddefnyddio wrth archebu unrhyw un o wasanaethau gweithgynhyrchu Get It Made.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos, 31 Gorffennaf 2023.

I gael mwy o wybodaeth, cliciwch ar y ddolen ganlynol Women in Engineering Grant 2023 | Engineering Grants | Get It Made (get-it-made.co.uk)
 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.