BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grant Twf Sefydliadol Comic Relief

Older person volunteering in a community kitchen

Mae Grant Twf Sefydliadol Comic Relief yn cael ei reoli gan CGGC a'i ariannu gan Comic Relief. Mae'r cynllun yn cynnig cyllid i sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru i'w helpu i gael yr effaith fwyaf bosibl drwy ddatblygiad sefydliadol a mwy o wytnwch.

Nod y Grant Twf Sefydliadol yw rhoi cyfle i sefydliadau wneud newidiadau strategol sy’n gwella eu heffaith ac yn cynyddu gwydnwch, er enghraifft:

  • Adeiladu ar yr hyn sy'n gweithio'n dda mewn perthynas â gweithgaredd cymunedol eich sefydliad
  • Cryfhau a mesur effaith eich gweithgaredd craidd a arweinir gan y gymuned
  • Datblygu ffyrdd newydd o weithio

Bydd y cynllun yn ariannu sefydliadau sy'n gweithio i ddarparu buddion o dan y themâu canlynol:

  • Plant a phobl ifanc – dysgu a datblygu; datblygiad plentyndod cynnar
  • Cymuned – canolbwyntio ar wasanaethau lleol gan gynnwys banciau bwyd, ceginau cymunedol a mannau diogel i bobl sy’n agored i niwed
  • Allgymorth a chymorth sy'n canolbwyntio ar deuluoedd – hanfodion ac anghenion sylfaenol / cymorth ariannol
  • Digartrefedd
  • Gwasanaethau iechyd meddwl

Bydd grantiau rhwng £20,000 a £35,000 ar gael i sefydliadau gwirfoddol yng Nghymru. Cyfanswm gwerth y cynllun yw £315,000.

Mae'r cynllun grant bellach ar agor ar gyfer ceisiadau a bydd yn cau ar 6 Rhagfyr 2024 am 23:59.

Cliciwch ar y ddolen ganlynol i gael rhagor o wybodaeth: Grant Twf Sefydliadol Comic Relief - CGGC


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.