BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Grantiau Treftadaeth 15 Munud

 

Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri a Cadw wedi cydweithio i lansio Grantiau Treftadaeth 15 Munud ar gyfer prosiectau sy’n cefnogi gweithgareddau amrywiol sy’n cynyddu ymgysylltiad pobl â threftadaeth y mae modd ei chyrraedd o’u cartref mewn tua 15 munud.  

Mae grantiau rhwng £3,000 a £10,000 ar gael i awdurdodau lleol, sefydliadau trydydd sector a grwpiau gwirfoddol a chymunedol ar gyfer prosiectau bach sy’n helpu i gysylltu cymunedau yng Nghymru â’u treftadaeth leol.   

Gallai hyn gynnwys adeiladau, tirnodau, parciau a gerddi, neu hyd yn oed y siop leol neu’r blwch post lleol. Gallai prosiectau gynnwys llwybrau cerdded newydd, murluniau neu arddangosfeydd gwybodaeth mewn ffenestri, ac adnoddau digidol newydd fel mapiau rhyngweithiol, fideos, arddangosfeydd a phodlediadau.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 14 Hydref 2020.

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i wefan Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

 


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.