BETA

Rydych chi'n edrych ar fersiwn wedi'i diweddaru o'r wefan hon - bydd eich adborth yn ein helpu i'w wella.

Newyddion

Gweminar Am Ddim: Chwyddiant a Chostau Cynyddol: Beth sydd angen i chi ei wneud!

Mae costau cynyddol a chwyddiant yn her enfawr sy'n wynebu busnesau bach. Dysgwch sut i ddiogelu eich elw mewn oes o gostau cynyddol gyda Small Business Britain, Lloyds Bank Academy a'r arbenigwr gwerthu a manwerthu, Catherine Erdly.

Os oes gennych fusnes bach, efallai eich bod yn tybio ble i ddechrau arni, hyd yn oed, o ran adolygu eich busnes a diogelu eich elw wrth i gostau godi.

Yn y sesiwn hon, bydd yr arbenigwr busnesau bach, Catherine Erdly, yn trafod gyda chi:

•    Y niferoedd allweddol i gadw llygad arnynt wrth i gostau gynyddu
•    Pwysigrwydd prisio a sut i'w gwerthuso
•    Asesu eich gorbenion a blaengynllunio

Cynhelir y weminar ar 30 Mehefin 2022 am 11am.

I gofrestru ar gyfer y digwyddiad ewch i Webinar Registration - Zoom


Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.